|
![]() |
|
Gwybodaeth am y Grwpiau: Grŵp Gogledd Cymru Grŵp Gorllewin Canolbarth Lloegr Grŵp De Canolbarth Lloegr Grŵp Reading Grŵp De Orllewin Lloegr Grŵp East Anglia Grŵp Wessex
|
Is-Grwpiau’r Rheilffordd Mae yna nifer o is-grwpiau ar draws y DU ; mae rhain yn gyrff annibynnol sy’n cefnogi’r rheilffordd ac yn gysylltiedig a’r Gymdeithas. Sefydlwyd yr is-grwpiau yma mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o aelodau’r Gymdeithas yn byw, er mwyn rhoi mwy o ffocws lleol i’r rheilffordd. Mae’r is-grwpiau yma yn effeithiol iawn, gan ddod ag aelodau at ei gilydd am nosweithiau cymdeithasol ynghyd ag ymweliadau â rheilffyrdd eraill. Yn ogystal, bydd y grwpiau yn gweithio ar brosiectau fel adfer y locomotif K1, gosod tanciau dŵr, gosod cledrau a threfnu ymgyrchoedd codi arian. Mae pobl yn medru bod ynghlwm gyda gweithgareddau ymarferol trwy wneud gwaith yn eu cartref a chynorthwyo gyda phrosiectau lleol i’w hardal hwy, heb orfod teithio ymhell i’r rheilffordd. Cysylltydd gyda’r Grwpiau Rhanbarthol yw Neil
McMaster Mae ffurfio grŵp yn broses hawdd iawn: mae yna broses sydd wedi’i phrofi, proses y gall Neil McMaster eich arwain drwyddi. Gellir cyfrannu tuag at gostau gyrru llythyrau cychwynnol i aelodau eraill yn eich ardal ynghyd â chostau llogi adeilad i gynnal cyfarfod drwy wneud cais i’r Gymdeithas. Gall y Gymdeithas ddarparu labeli cyfeiriad ar gyfer y llythyrau uchod. Grŵp Treftadaeth Rheilffordd Eryri Mae'r grŵp hwn yn cael ei gyflwyno i astudio a chadw hanes y rheilffordd. Nid rhan o'r Gymdeithas ydy hwn, ond mae'r Gymdeithas yn cefnogi ei nodau. Am fanylion pellach, gweler eu gwefan Nodyn i’r Grwpiau: mae cywirdeb gwybodaeth ar y tudalennau yma yn ddibynnol ar ein cyd-aelodau yn gadael i ni wybod beth sy’n digwydd! Credwn fod y wybodaeth am is-grwpiau’n gywir, ond buasai’n fuddiol i chi gysylltu â’r person cyswllt cyn mynychu cyfarfod. Petaech yn gweld fod rhywbeth ar goll neu’n anghywir, yna cliciwch ar: Ebostiwch eich newyddion diweddaraf i ni |