|
![]() |
|
Gwybodaeth am y Grwpiau: Grŵp Gogledd Cymru Grŵp Gorllewin Canolbarth Lloegr De Canolbarth Lloegr Grŵp Reading Grŵp De Orllewin Lloegr Grŵp East Anglia Grŵp Wessex |
Grŵp Gogledd CymruCyswllt: Elwyn Jones, Ysgrifennydd Cymdeithasol y Grŵp, Cae'r Odyn, Rhostryfan, Caernarfon LL54 7PB.Ffôn: 01286 830856 07840 910460 Ebost: elwynjos@hotmail.co.uk Cyfarfodydd 2011Lleoliad: Clwb Mountain Rangers, Rhosgadfan, ail ddydd Mercher o’r mis am 7.30 pm Gaeaf a Gwanwyn 9 Mawrth - Yn anffodus nid ellith ein darlithydd gwadd fedru ddod draw. Mae Mr Dave Walers o'r Fali Sir Fon wedi gaddo llenwir bwlch gyda sleids o amrhyw reilffyrdd cul. Dewch yn llu i'n cefnogi. 13 Ebrill - Rheilffordd Llangollen 11 Mai - siaradwr i’w cadarnhau. Digwyddiadau'r Haf 11 Mehefin - Ymweliad a Rheilffordd East Lancashire 22-25 Gorffenaf - Trip Penwythnos blynyddol y Grwp - Gweler isod Yr Hydref 14 Medi - Ymweliad a Gweithdai Boston Lodge. 12 Hydref - Ieuan Owen yn arddangos mwy o’i ffotograffau. 9 Tachwedd - Gary Hughes - noson o fideo hanesyddol. 14 Rhagfyr - Y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, y bwffe a’r cwis. Trip Flynyddol Grwp Gogledd Cymru Eleni fe fyddem yn mynd i'r "Severn Valley Railway, ond dim hynny'n unig: Bore ddydd Gwener 22 o Orffenaf fe fydd bws yn dechrau o gyfeiriad Penygroes ac yn codi pobol ar hyd y ffordd i gyfeiriad Carrog, cyrraedd tua 10.30-11.00 i ddal tren Llangollen am 12.00 i gyfeiriad Llangollen. Fe gawn ddigon o amser yno ar gyfer cinio ac ati cyn dychwelyd i'r bws i fynd i'r gwesty am y noson yn "Worcester". Bore wedyn fe fydd dewis i'r rhai fynd i ymweld a Dinas Worcester neu trafeilio gyda tocyn dydd ar y Severn Valley Railway. (Fe fydd y bws yn ein cludo yno ac yn ol). Bore Sul fe fydd y bws yn mynd a ni i Stratford-upon-Avon erbyn tua 11.00 lle bydd tren stem Shakespeare Express yn ein cludo i Firmingham gyda cinio dydd Sul i'w gael yn ystod y siwrnai. Fe fyddem yn cyrraedd yn ol yn Stratford am 3.30 y pnawn a cawn amser hamdden yno nes dychwelir y bws ni'n ol tua 5.30 yn ol i'r gwesty. Bore ddydd Llun fe awn i Dudley Black Country museum ac adref ar ol cinio yno. Y pris oddeutu £240-£250 yr un. Fe fydd rhaid i ni dderbyn blaendaliad o £100 y person cyn 30 Ebrill. A wnewch y siec allan i RhE Grwp Gogledd Cymru. a'i yrru i mi gyda amlen a stamp dosbarth cyntaf:- Caerodyn, Rhostryfan, Caernarfon, Gwynedd LL54 7PB. Rhif ffon symudol am fwy o fanylion: 07840 910460 |