|
|
|
Gwybodaeth y Gymdeithas Sut i ymaelodi Cyfrannu i'r Gymdeithas Gwirfoddoli gyda'r Gymdeithas Swyddogion y Gymdeithas Cyrfifoldebau'r Swyddogion Arwydd o Werthfawrogiad Blynyddol Cydnabyddiaethau |
Cyfrannu Arian at y Gymdeithas Gwerthfawrogir eich cyfraniad i’r Gymdeithas. Bydd y cyfraniadau hyn yn ein cynorthwyo i adeiladu rheilffordd well er mwynhad pob un ohonom. Petaech yn ymweld â’r tudalennau prosiect, byddwch yn gweld rhai o’r pethau rydym wedi bod yn gweithio arnyn nhw.Sut allaf gyfrannu i’r Gymdeithas? Mae nifer o ffyrdd: EveryClick: Petaech yn edrych ar ein safle EveryClick, gallwch wneud cyfraniad (unrhyw swm o arian) ar-lein. Mae’r safle’n arddangos rhestr o gefnogwyr diweddar, ond petaech yn dewis bod yn anhysbys, mae opsiwn ar eich cyfer. Os dach chi’n defnyddio EveryClick, gadewch nodyn yn y blwch sylwadau i ddynodi sut y buasech yn hoffi i’ch cyfraniad gael ei ddefnyddio. Yn ogystal, bydd EveryClick yn casglu comisiwn bychan er lles y Gymdeithas os dach chi’n defnyddio’r llwybr yma ar gyfer eich siopa ar-lein neu eich masnach eBay ar ddim cost i chi o gwbwl. Petaech yn hoffi trefnu ymgyrch codi arian eich hun i gefnogi’r Gymdeithas, e.e. gweithgaredd noddedig, yna gallwch ystyried cychwyn eich tudalen EveryClick eich hun gyda chyswllt â thudalen y Gymdeithas. Trwy hyn, gallwch gasglu arian eich hun. Mae’n hawdd i’w drefnu a does dim angen i chi ddelio gyda’r arian hyd yn oed. Siop y Gymdeithas: Ar ein siop ar-lein, mae lle i chi ychwanegu cyfraniad i’r Gymdeithas gyda’ch pryniant petaech yn dymuno. Yn ogystal, mae’r llwybr yma’n eich galluogi i gyfrannu i brosiect benodol petaech yn dymuno. e.e. NG15, Arosfan Nantmor, ayyb. Cyfraniadau Rheolaidd: I drefnu cyfraniadau rheolaidd, defnyddiwch y ffurflen Archeb Banc a’i phostio i’r Trysorydd. Sieciau: Petai’n well gennych dalu gyda siec, yna gwnewch eich siec allan i “Gymdeithas Rheilffordd Eryri” a’i phostio i’r Trysorydd, ogydd. Gweler cyfeiriad y Trysorydd o dan rhestr y swyddogion. Defnyddiwch y trefniant Cyfamod Cyfraniad pan y medrwch. Trwy hyn, gallwch hawlio treth a chynyddu gwerth eich Cyfraniad 25%. |