whrs logo
Cymdeithas Rheilffordd Eryri

Welsh Highland Railway Society
Photo: © J.Williams 
WHR


Gwybodaeth y Gymdeithas


Sut i ymaelodi
Cyfrannu i'r Gymdeithas
Gwirfoddoli gyda'r Gymdeithas
Swyddogion y Gymdeithas
Cyrfifoldebau'r Swyddogion
Arwydd o Werthfawrogiad Blynyddol
Cydnabyddiaethau

Arwydd o Werthfawrogiad Blynyddol


Symbylwyd y wobr yma yn gyntaf yn 2003 fel arwydd o ddiolchgarwch y Gymdeithas i aelodau unigol neu grŵp oedd wedi gwneud cyfraniad amlwg i’r Gymdeithas a’r / neu’r Rheilffordd dros y flwyddyn flaenorol. 
Fel rheol, cyflwynir y wobr yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol. Dewisir y derbynnydd gan fwrdd cyfarwyddwyr y Gymdeithas a gall y derbynnydd gael ei enwebu gan unrhyw aelod; gwelir manylion am sut i enwebu aelod isod. 

Fel gwobr, cyflwynir copi hanner maint o docyn

Blwyddyn

Derbynnydd

Cyflwynir y wobr am..

2003*

Ivan Ball

Ysgrifennydd Aelodaeth oedd yn ymddeol, am sefydlu’r bas data

2004

Colin Hill

Arweinydd Tîm K1 am 9 mlynedd.

2005

John Sweet

Ysgrifennydd Adnewyddiadau ac Aelodaeth oedd yn ymddeol.

2006

Bob Carnell

Trysorydd oedd yn ymddeol ynghyd â delio gyda Rhoddion Cymorth yn dilyn cofrestriad y Gymdeithas fel elusen.

2007

Alf Williams

Gwirfoddolwr amlwg a dreuliodd, ar gyfartaledd, pum diwrnod yr wythnos gydag adran locomotif Dinas.

2008

John Sreeves

Cyfraniad gwirfoddol amlwg gyda chynllunio holl brif bontydd y rheilffordd ar ei newydd wedd

2009

Stuart McNair

Cyfraniad gwirfoddol hynod fel peiriannydd sifil i Gyfnod Pedwar Ail-adeiladu’r Rheilffordd.

2010

David Tidy a Laurence Armstrong

Sefydlu Gwefan y Gymdeithas a churadu gwefan brosiect Dr Ben Fisher yn dilyn ei farwolaeth annisgwyl.




* Yn ogystal yn 2003, cyflwynwyd copi bythol parhaus o’r wobr i Roland Doyle, fel cydnabyddiaeth o’i waith yn edrych ar ôl y gwaith o  ail-adeiladu’r Rheilffordd o Gaernarfon i Ryd Ddu.   


Enwebu Aelod o’r Gymdeithas am Wobr Gwerthfawrogiad: 

Mae’n ofynnol i’r person a enwebir fod yn aelod cyfredol o’r Gymdeithas yn ogystal â’r person sy’n enwebu a’r eilydd. Gwneir yr enwebiad yn ysgrifenedig i ysgrifennydd Bwrdd y Gymdeithas (manylion yma) erbyn Mehefin 1af. Rhaid i’r enwebiad ddatgan y rheswm dros yr enwebiad yn glir, mewn 250 o eiriau ar y mwyaf. Dylid cynnwys y rhesymau pam fod yr aelod yn haeddiannol o’r arwydd o werthfawrogiad yn eich tyb chi. Nid yw aelodau Bwrdd presennol y Gymdeithas yn gymwys i gael eu henwebu.  
Mae Cymdeithas Rheilffordd Eryri yn Elusen Gofrestredig, Rhif: 1094938  
 © webmasters neu fel y dangosir - diweddarwyd y dudalen yma Tachwedd 2010 gan David Tidy