whrs logo

Cymdeithas Rheilffordd Eryri

The Welsh Highland Railway Society
Photo: © J.Williams 


Gwybodaeth y Gymdeithas


Sut i ymaelodi
Cyfrannu i'r Gymdeithas
Gwirfoddoli gyda'r Gymdeithas
Swyddogion y Gymdeithas
Cyrfifoldebau'r Swyddogion
Arwydd o Werthfawrogiad Blynyddol
Cydnabyddiaethau


Gwirfoddoli gyda Chymdeithas Rheilffordd Eryri


Mae gwirfoddoli yn rhan annatod o weithredu’r mwyafrif helaeth o reilffyrdd cadwedig y DU, ac nid yw Rheilffordd Ucheldir Cymru yn eithriad. Tra bod staff craidd parhaol ar gael, mae’r rheilffordd yn dibynnu’n drwm ar ymdrech gwirfoddolwyr i helpu i redeg a chynnal y rheilffordd a’i isadeiledd.

Mae’r ymdrech yn amrywio o’r anghenion staff amlwg fel criw locomotif, gards a staff cownter bwyd sy’n rhedeg y trenau i’r aelodau llai amlwg fel y rhai sy’n adeiladu gorsafoedd a’r rhai sy’n tacluso gerddi. Am bob un o’r rhai, mae nifer fawr o bobl eraill yn cynorthwyo yn eu ffordd eu hunain, fel meistri’r wefan sy’n eistedd ar seddi cyffyrddus yn hyrwyddo’r Gymdeithas! Beth bynnag yw’r gwaith, gallem eich sicrhau bod joban yma i CHI ein helpu.   
 
Yma, edrychwn yn fwy manwl ar y gwaith mae rhai o’n gwirfoddolwyr yn ei wneud. 
 
 
Gwaith ar y Cledrau

The train's volunteer Guard and Fireman (Photo: John Williams)Gosodwyd y mwyafrif o gledrau Rheilffordd yr Ucheldir yn bennaf gan wirfoddolwyr Cymdeithas Rheilffordd Eryri. Daw’r gwirfoddolwyr yma o bob lliw a llun a chawsant gymorth gan lawer o’r tu allan i’r Gymdeithas, fel grwpiau o fyfyrwyr coleg, rheolwyr rheilffyrdd, y fyddin, i enwi ond ychydig. Edrychwch ar dudalen Gwaith ar y Cledrau i gael manylion o sut y gallwch chi helpu.

Criw'r Loco
  
Unwaith eto, mae gyrwyr a thanwyr y locos yn dod o bob agwedd o fywyd, gyda phob math o sgiliau. Mae rhai yn gweithio’n ddyddiol yn y diwydiant rheilffyrdd, ac eraill mewn meysydd hollol wahanol. Y man cyffredin yw eu bod i gyd gyda diddordeb go iawn mewn rheilffyrdd yn gyffredinol. Os oes gennych chi'r un diddordeb, yna rhowch gynnig ar wirfoddoli ar RHUC a gweld sut y dowch ymlaen.

Cynnal a Chadw’r Locos
  
Volunteers at an NG15 working party (Photo: Tim Goodspeed)Mae pobl gyda chefndir peirianyddol yn cymysgu’n ddyddiol gyda phobl eraill sy’n gwirioni ar drenau. Mae digon i’w wneud hefyd gydag adfer Loco Dosbarth NG15 ar hyn o bryd yn ogystal â chadw’r K1 ar y cledrau. Os dach chi’n gyffyrddus gyda brws paent neu os dach chi’n gwybod sut mae gweithio turn (lathe), yna mae gennym waith i chi.
 
Cynnal a Chadw’r Stoc Cerbydau
 
Painting DZ wagon at Dinas, 01.01.04 (Photo: Marcus Ingram)Mae popeth sy’n rhedeg yn bethau sydd angen eu cynnal a’u hatgyweirio. O’r stoc cerbydau arferol i’r fflyd o wagenni - maent oll angen eu cadw mewn cyflwr da. Edrychir ar y cerbydau yn wythnosol gan wirfoddolwyr yng ngorsaf Dinas. Fel arfer, gwneir y gwiriadau blynyddol a’r adnewyddiadau achlysurol gan y staff parhaol gyda chymorth gan wirfoddolwyr. O baentio i saernïaeth, rydym yn sicr y gallwch helpu.
 
Criw'r Trenau

Petaech ddim yn ffansïo rhywbeth ymarferol neu os nad oes gennych ddiddordeb mewn injans budr, yna efallai y buasai gweithio yng nghysur ein cerbydau yn apelio atoch. Gwaith fel gard, staff cownter bwyd neu werthu arweinlyfrau.....mae angen gwneud y swyddi yma i gyd, a gwirfoddolwyr sy’n gwneud hyn.

Heb weld dim byd at eich blas eto? Yna beth am ystyried..... 
   
Garddio

Gardening on Beddgelert Station (Photo: Dave Waldren)Mewn nifer fawr o’r gorsafoedd ar y Rheilffordd, mae gardd o ryw fath. Mae angen tacluso’r rhain i gyd, yn arbennig yn ystod misoedd yr haf. Os dach chi’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored a gweld planhigion yn tyfu, yna beth am edrych ar y Grŵp Tirlunio am fwy o fanylion?

Gorsafoedd ac Adeiladau

Volunteers painting Rhyd Ddu water towerBeth am helpu gyda phrosiectau cynnal ein gorsafoedd a’n adeiladau, hyd yn oed cynorthwyo gydag adeiladu adeilad newydd. Edrychir ar ôl ein gorsafoedd yn bennaf trwy gynllun Mabwysiadu Gorsaf a redir gan Gymdeithas Rheilffordd Eryri. Fodd bynnag, gallwch ymuno ag unrhyw grŵp sy’n edrych ar ôl gorsaf benodol. Mae’r tasgau’n cynnwys gweithgareddau y buasech yn eu gwneud adref o gwmpas eich tŷ neu yn yr ardd. Petaech yn ffansïo rhywbeth mwy adeiladol a chael edrych ar y trenau ar yr un pryd, yna mae rhaglen i chi mewn adeiladu cysgodfeydd ac adeiladau mewn gorsafoedd. Gwaith coed, paentio neu ddefnyddio morthwyl neu sgriwdreifer, dyna’r oll sydd ei angen.

Gwaith yn y Cartref

WHR stalwart Cedric Lodge making station signs (Photo: John Williams)Yn ychwanegol i’r gweithgareddau uchod, mae pob math o jobsys y gallwch ei gwneud yn eich cartref. Cymerwch Grŵp East Anglia. Maent yn trefnu grwpiau gwaith yn rheolaidd yn eu canolfan lle y byddant yn gweithio ar wagenni a gwneud arwyddion gorsafoedd, i roddi ychydig o enghreifftiau i chi. Os dach chi’n mwynhau eich cwmni eich hun yna mae digonedd o jobsys bach a mawr y medrwch ymwneud â hwy adref yn eich gweithdy. Uchod, gwelir Cedric Lodge, symbylydd cadwraeth RhUC a sylfaenydd Cymdeithas Rheilffordd Eryri, wrthi’n ddiwyd yn creu arwydd gorsaf newydd.

Felly beth bynnag yw eich sgiliau, gallwn eich sicrhau y bydd gwaith ar eich cyfer. Does dim pwynt aros i weld os wnaiff rhywun arall y gwaith, mwy na thebyg ni wnânt - y chi wnaiff y gwaith i ni. A chofiwch, da ni’n griw cymdeithasol iawn. Bydd croeso cynnes iawn i chi a digon o bethau i’w gwneud ar ôl i’r rheilffordd gau am y diwrnod

Mae llawer mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau’r Grwpiau a’r Prosiectau gyda manylion am bwy a sut i gysylltu ar dudalennau’r Gymdeithas. Cysylltwch â ni i drefnu dyddiad.




 © webmasters yw’r holl gynnwys neu fel y dangosir  - Diweddarwyd y dudalen yma mis Mawrth 2010 gan David Tidy