|
|
|
Cyhoeddiadau Cyhoeddiadau Hen Gyhoeddiadau a Archifwyd |
CWRW AR Y CLEDRAU / RAILALE 2011
Bydd Gŵyl Cwrw Go Iawn y Gymdeithas - Cwrw ar y Cledrau / Railale yn cael ei chynnal ar benwythnos, Mai 20fed i’r 22ain. Bydd Gŵyl eleni, y seithfed mewn cyfres lwyddiannus eithriadol ymysg uchafbwyntiau calendr y Rheilffordd, yn cynnwys y gymysgfa eclectig arferol o ddetholiad gwych o gwrw a seidr go iawn ynghyd ag amrywiaeth o gerddoriaeth, bwyd o safon uchel ac, wrth gwrs, trenau stem.
Fel sydd wedi bod yn arferol ers blynyddoedd bellach, byddwn yn cynyddu’r dewis o gwrw da fydd ar gael; y llynedd, roedd 55 cwrw gwahanol i’w dewis ym mhrif safle’r Ŵyl, sef Dinas. Ynghyd ag ystod eang o gwrw newydd i’w dewis, bydd yr hen ffefrynnau fel ‘Dark Ruby’ a dewis da o gwrw o fragdy Mws Piws, Porthmadog. Y cwmni yma fydd yn bragu ‘Cwrw’r Ŵyl. Wrth gwrs, bydd dewis ychwanegol o wahanol gwrw i’w cael mewn lleoliadau eraill sy’n cymryd rhan yn yr Ŵyl; dyma’r prif rai ar hyn o bryd:
Dyma’r dewis o adloniant sydd wedi’i gadarnhau:
Bydd cymysgfa o drenau arbennig yr Ŵyl, gan gynnwys trenau gwennol ymysg y rhai ar yr amserlen benodol. Bydd yr amserlen gyflawn yn cael ei chyhoeddi’n fuan. Am y tro cyntaf, bydd cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr i’r de o Feddgelert deithio ar y trenau yn ystod yr Ŵyl.
Cewch fynediad i brif safle’r Ŵyl yng ngorsaf Dinas trwy brynu gwydr yn dathlu’r Ŵyl.
Petaech yn awyddus i helpu dros benwythnos yr Ŵyl, mae Tym Crowther, Cydlynydd Gwirfoddolwyr yr Ŵyl, yn cymryd enwau. Gallwch gysylltu â Tym trwy e-bost: andy@tymcrowther.eclipse.co.uk. Mae pob math o waith i’w wneud; felly, dowch i gefnogi’ch rheilffordd. Bydd pob elw yn cael ei ddefnyddio i wella’r rheilffordd. Paratoi ar gyfer y tymor i ddod
I’ch atgoffa, dros penwythnos
hir, dydd Gwener 4edd i ddydd Llun 7fed
Mawrth, byddwn yn paratoi y gorsafoedd ar gyfer tymor 2011. Bydd Grŵp
Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar orsaf Dinas ond does dim yn
eich nadu rhag cynorthwyo ar unrhyw orsaf neu arosfan arall, gan fod
digon i’w wneud.
Os allwch gynorthwyo, hyd yn oed ond am un diwrnod, cysylltwch â: Dinas Dafydd Thomas / tel. 01248 681019 Waunfawr - Howard Stuckey / tel. 01758 750068 Beddgelert - Mike Hadley / tel. 01386 792877 Ymysg y nifer o dasgau sydd angen eu gwneud mae: Gosod ffens o amgylch y byfferau yn Dinas. Ysgubo’r platfform yn Dinas. Glanhau’r bont yn Waunfawr gyda golchwr pwysedd. Glanhau’r mwsogl o blatfform Meillionen. Peintio ffenestri adeilad gorsaf Rhyd Ddu.
|