whrs logo
Cymdeithas Rheilffordd Eryri
The Welsh Highland Railway Society

Prosiectau’r Gymdeithas


Prosiectau’r Gymdeithas 


Gwaith ar y Cledrau
Cynnal a Chadw Locomotif K1
Adferiad Locomotif NG15 Rhif 134
Wagenni a rholstoc
Gorsafoedd ac adeiladau
Gerddi a Thirlunio
Prosiectau’r Gymdeithas 

Mae’r Gymdeithas, fel cefnogwr y rheilffordd, ynghlwm gyda maint a lles y rheilffordd mewn sawl ffordd. Un o’r ffyrdd hynny yw'r cymorth corfforol a roddir. Cewch fanylion am y cymorth dyddiol o redeg y rheilffordd ar dudalennau’r adran Gwirfoddoli. Fodd bynnag, mae llawer mwy yn mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni nag sy’n ymddangos ar y cychwyn  

Mae canran sylweddol o’r gwaith ynghlwm gyda phrosiectau mae’r Gymdeithas yn eu cefnogi, prosiectau sy’n ymwneud â’r rheilffordd. Mae’r rhain yn amrywio o’r pethau mwyaf amlwg fel adfer locomotif NG15, Rhif 134 ynghyd â chynnal a chadw locomotif K1, Garrat cyntaf y byd, hyd at y tasgau llai atyniadol fel adeiladu arwyddion gorsafoedd a dodrefn eraill.

Gyda phob un o’r prosiectau yma, maent yn dibynnu ar ymdrech a sgiliau’r gwirfoddolwyr. Os oes rhywbeth yna sydd yn eich ymddiddori neu os dach chi’n teimlo eich bod yn meddu ar sgiliau allai fod o gymorth i’r grŵp sydd ynghlwm gyda’r prosiect, yna cysylltwch heb oedi - ceir manylion mewn nifer o adrannau ar y wefan. Cofiwch, nid yw’r gwaith i gyd yn gorfforol, does dim gofyn arnoch fod ar y rheilffordd drwy’r adeg. Caiff rhai tasgau eu cwblhau gartref, fel gwaith meistri’r wefan ei hun, neu gallwch helpu gydag ymgyrchoedd codi arian.  





© webmasters yw’r holl gynnwys neu fel y dangosir  - Diweddarwyd y dudalen yma mis Chwefror 2010 gan David Tidy