whrs logo
Cymdeithas Rheilffordd Eryri
Welsh Highland Railway Society

Prosiectau'r Gymdeithas

Tending Beddgelet Station's flower beds; Photo: © Roy Woods


Y Prosiect:

Amcan y prosiect yw cadw gerddi a darnau ‘glas’ y rheilffordd mewn cyflwr gweddus. Mae cydweithrediad clos rhwng y grŵp yma â Grŵp menter ‘Mabwysiadu Gorsaf’.

Grŵp Tirlunio

Cyflwyniad/Cefndir:


Gyda thranc y grŵp tirlun gwreiddiol yn 2001 o dan arweiniad Jan Woods, mae’r dasg o gynnal a chadw’r tir a’r gerddi yn Dinas a Waunfawr wedi cael ei gyflawni gan dri pherson diwyd. Ar adegau, pan oedd angen ymafael â thasgau enfawr yn Waunfawr a Rhyd Ddu, cafwyd  cefnogaeth ychwanegol gan grwpiau neilltuol o hyd at bump o bobl. Mae’r gefnogaeth yma, sydd wedi denu rhyw ddwsin o wirfoddolwyr a fu’n barod i gynorthwyo pan allent, wedi bod yn amhrisiadwy ar sawl achlysur. Fodd bynnag, fel mae’r rheilffordd yn ymestyn, bydd y baich gwaith yn cynyddu ac ni fydd y dull ad hoc yma o drefnu grwpiau gwaith yn ddigonol i wynebu’r heriau sydd o’n blaen.   
Mae’n amlwg y bydd 3 neu 4 o bobl ar un neu ddau o ddiwrnodau dros benwythnos yn hollol annigonol pan grëir gerddi tirlun yng ngorsafoedd fel Beddgelert, Pont Croesor ac, yn y pen draw, Caernarfon. Ar hyn o bryd, mae datblygiad y gwelyau tirlun (Grŵp Gorllewin Canolbarth Lloegr) a ddifethwyd gan ddefaid ar lwyfan gorsaf Beddgelert, wedi cael ei atal. Mae cynllun y llwyfan yn cael ei ailystyried ar hyn o bryd, ond mae’n rhesymol i dybio y bydd y gwaith yma wedi’i gwblhau cyn i’r lein agor i Borthmadog. Bydd rhaid ystyried beth i wneud ym Mhont Croesor hefyd. A ddylwn ni gydweithio gyda’r Gymdeithas Frenhinol   
dros Amddiffyn Adar (RSPB) i ddatblygu cynllun i’r orsaf yma? Mae hyn i gyd cyn ystyried faint o gymorth bydd y grwpiau mabwysiadu’r chwe arosfa ar y lein eu hangen.
Mae’n bwysig ein bod, fel rheilffordd i dwristiaid, yn cydnabod delwedd y rheilffordd y mae’r ymwelwyr yn mynd adref gyda hwy. Mae ymddangosiad ein gorsafoedd mor bwysig â gorffeniad mewnol ein cerbydau a’r golygfeydd y tu allan i’r ffenestri. Rydym yn gwybod trwy dderbyn sylwadau gan deithwyr yn Waunfawr a Rhyd-Ddu eu bod yn gwerthfawrogi’r tirluniau a’r themâu rydym wedi eu datblygu mewn gorsafoedd gwahanol.  

Mae penderfyniad y Cwmni a’r Gymdeithas i ddilyn y cynllun ‘Mabwysiadu Gorsaf’ yn 2009 yn rhoi cyfle i ddenu mwy o bobl i agweddau gwahanol o gynnal a chadw ymddangosiad y gorsafoedd. Mae’r grwpiau mabwysiadu a’r unigolion yn debygol o gymryd cyfrifoldeb am ofal cyson a chynnal a chadw ffabrig y gorsafoedd gan gynnwys chwynnu a thacluso gwelyau blodau a blychau blodau yn rheolaidd. Bydd hyn yn wir yn y gorsafoedd mwyaf fel Dinas a Waunfawr, lle mae mannau helaeth wedi’u plannu. Yn y tymor hir, gobeithir denu gwirfoddolwyr gydag ystod gynhwysfawr o sgiliau arddio at y timau yn y gorsafoedd hyn i wneud y gwaith. Fodd bynnag, mae tasgau trwm sydd angen gwirfoddolwyr ychwanegol rhyw deirgwaith y flwyddyn. Nid oes angen sgiliau garddio i’r tasgau hyn.    

Y materion yma yw craidd y penderfyniad i geisio ail-sefydlu Grwpiau Tirlun o wirfoddolwyr allai ymuno â’i gilydd o leiaf deirgwaith y flwyddyn, yn y gwanwyn cynnar, yr haf a diwedd hydref. Bydd angen grŵp gweithio ychwanegol ambell i flwyddyn ar gyfer prosiect arbennig nad yw’n bosib ei ffitio i’r grwpiau gweithio tymhorol uchod.  

Tra gobeithir y bydd y Grŵp Tirlun yn gall denu gwirfoddolwyr o’r Timau ‘Mabwysiadu Gorsaf’, bydd hefyd yn ceisio denu gwirfoddolwyr o grwpiau eraill ynghyd â phobl ar draws y wlad sydd ddim yn gallu ymweld â Gogledd Cymru yn gyson, pobl sy’n gwirfoddoli i weithio ar y trenau, y ffordd barhaol neu’r Gwaith yn Dinas.  

Gall pobl sydd ddim yn arddwyr profiadol helpu gyda thocio coed, codi nwyddau trwm, strimio a thaclo llwyni drain neu fieri. Does dim angen llawer o hyfforddiant i’r gweithgareddau uchod ac mae croeso i unrhyw rai i ymuno â’r grwpiau yma i wella naws ac awyrgylch ein gorsafoedd.    

Gan ystyried yr amcanion uchod, ffurfiwyd grŵp dros dro i daclo gwelyau blodau a’r argloddiau yn Waunfawr mis Hydref 2009. Roedd y gweithlu yma (4 gwirfoddolwr) wedi bod ynghlwm gyda chynllun ‘mabwysiadau’ Gorsafoedd Dinas a Waunfawr. Cafwyd cymorth ychwanegol gan aelod o’r Criw Dydd Mawrth i wneud gwaith trwm, Pete Hugman gyda’i strimyr a John Peduzzi gyda’i lif cadwyn.  
Yn dilyn trafodaeth, roedd y rhai oedd yn bresennol yn yr ymgyrch uchod yn cytuno y buasai’n fuddiol rhoi grwpiau gwaith gyda’i gilydd yn rheolaidd. Bydd y trefniadau yma angen cyhoeddusrwydd ymlaen llaw ac adroddiadau am y gweithgareddau yn y cylchgrawn Snowdon Ranger.
 
Felly, dyma sylfaen i sefydlu Grŵp Tirlunio ar y Cyd  
o dan ambarél cynllun ‘Mabwysiadu Gorsaf’, ond sy’n agored i bob person sy’n awyddus i wneud gorsafoedd y rheilffordd yn atyniadol i’n teithwyr, gan gymharu’n ffafriol â gorsafoedd ar reilffyrdd cadwedig lled gyffredin. Bydd y tri grŵp gweithio arfaethedig yn cyfarfod mewn lleoliadau a ddewisir ar gyfnod prawf, gan gychwyn yn Chwefror/Mawrth i daclo ymgyrchoedd tocio llwyni a chlirio llanast y gaeaf. Dilynir hyn gyda sesiwn clirio’r haf ym Mehefin/Gorffennaf cyn y prif dymor gwyliau. Yn Hydref/Tachwedd trefnir sesiwn clirio’r hydref i dorri i lawr tyfiant yr haf, tacluso a thocio coed, llwyni ynghyd â phlannu stoc newydd ar gyfer y gwanwyn canlynol lle mae’n briodol.  

Cyhoeddir adroddiadau a gwybodaeth am grwpiau gwaith y dyfodol yn y ‘Snowdon Ranger’ ac ar y wefan yma. Petaech yn awyddus i wirfoddoli ac i ymuno â’r ymgyrchoedd uchod gyda’r Grŵp Tirlun ar y Cyd, rhowch ganiad i Graham Cartland Glover ar 01483 473440 am sgwrs. Diolch.



©Webmaster yw’r holl gynnwys neu fel y dangosir - Diweddarwyd y dudalen yma mis Mawrth 2010 gan David Tidy