|
|
Y Prosiect: Mae’r grŵp K1 yn gyfrifol am gynhaliaeth gyffredinol y locomotif. Maent yn edrych ar ôl cynnal a chadw’r locomotif yn y gaeaf gan gynnwys unrhyw welliannau eraill i’w pherfformiad. |
K1Y Garratt Gwreiddiol – Cynnal a Chadw a ChefnogaethMae gan K1 ei lle mewn hanes, gan mai hi oedd arloeswr y math yma o locomotif cymalog, gan gael ei henwi Y ‘Garratt’. Adeiladwyd dwy injan gan gwmni Beyer Peacocks ar gyfer Tramffordd ogledd-ddwyrain Dundas yn Nhasmania yn 1909, ac fe gyfeiriwyd atynt fel K1 ac K2. Profwyd eu haeddiant fel locomotifau cymalog i’w defnyddio ar reilffordd lled gul gyda throadau tynn a graddiannau syth. Dilynwyd hyn gyda dyluniadau pellach ar gyfer rheilffyrdd o amrywiol led trwy’r byd. Gwnaeth hyn sicrhau fod Garratt yn un o locomotifau cymalog mwyaf llwyddiannus y byd tyniant stêm.Yn ddiweddarach, rhoddwyd y gorau i ddefnyddio K1 a K2 ond ni sgrapiwyd yr un ohonynt. Yn hytrach, gwerthfawrogwyd eu ffurf unigryw a chynigiwyd K1 gyda boeler a darnau eraill o K2 ynddi) i Bayer Peacocks i fod yn rhan o gadwraeth y cwmni. Gyda diwedd Bayer Peacock, daeth K1 i feddiant Rheilffordd Ffestiniog ac, yn ddiweddarach, fe’i harddangoswyd yn yr Amgueddfa Reilffordd Genedlaethol yn Efrog. Gyda rhagolygon o ailagor Rheilffordd Ucheldir Cymru yn edrych yn fwy tebygol, gwelwyd cyfle i adfer a defnyddio’r locomotif unwaith eto. Sefydlwyd Grŵp K1 gyda’r bwriad o fod yn gyfrifol am adfer yr injan i fod yn hollol weithredol. Dechreuwyd y gwaith yn Tyseley ger Birmingham, a symudwyd hi yn nes ymlaen i Boston Lodge ar Reilffordd Ffestiniog cyn cyrraedd RhUC yn 2004. Cynorthwyodd y grŵp wrth gwblhau adferiad K1 i wasanaeth refeniw llawn dair blynedd yn nes ymlaen yn Hydref 2007. Roedd hyn yn cynnwys nifer o dreialon i gael gwared â’r holl rwystrau, fel y cafwyd gydag iriadau. |