|
![]() |
|
Y Prosiect: Amcan y prosiect yma yw cynnal a chadw gorsafoedd ac adeiladau’r rheilffordd. Fe sylfaenir y prosiect o amgylch menter ‘Mabwysiadu Gorsaf’ a bydd y grŵp/ grwpiau yn gweithio’n glos gyda’r Grŵp Tirlunio. |
Gorsafoedd ac AdeiladauAr hyn o bryd mae pum gorsaf yn weithredol ar y rheilffordd ynghyd â phum arosfa ychwanegol. Bydd y nifer yma yn cynyddu yn fuan fel y cyflwynir arosfeydd newydd ar y rhan newydd tuag at Borthmadog. Fel yr adeiladwyd y rheilffordd, dim ond digon o adnoddau ar gyfer cyfleusterau sylfaenol oedd ar gael yn yr arosfeydd yma. Mae’r Gymdeithas ynghlwm gyda darparu gwell cyfleusterau lle mae’n briodol.Mae’r gwaith yma’n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Yn gyntaf, rydym yn adeiladu cysgodfeydd aros yn Snowdon Ranger a Meillionen. Ynghyd â’r ymdrech yma, cyflwynwyd Cynllun Mabwysiadu Gorsaf, pryd y chwilir am grŵp neu grwpiau i fabwysiadu gorsaf benodol ac i edrych ar ei hôl fel y bydd angen. Trwy hyn, bydd y gorsafoedd yn cael tipyn bach mwy o faldod er mwyn iddynt edrych yn fwy gweddus i’r cyhoedd sy’n teithio ar hyd y lein. |