whrs logo
Cymdeithas Rheilffordd Eryri


Prosiectau'r Gymdeithas
 
Tracklaying at Croesor Junction in 2008 Photo: © S.Melhuist


Y Prosiect:

I helpu’r cwmni gyda’r dasg o osod cledrau ac wedyn eu cadw mewn cyflwr ardderchog.

Gwaith ar y Cledrau 

Does dim dwywaith mai’r cledrau sy’n gwneud rheilffordd. Yn syml, os nad oes cledrau, fydd na ddim rheilffordd. Ac os nad oes rheilffordd, does dim lle i weddill y ‘teganau’ redeg.

Fodd bynnag, nid tegan mo’r rheilffordd yma. Busnes o ddifrif yw rhedeg Rheilffordd Ucheldir Cymru, ac wrth ystyried hyn, nid yw’n syndod fod gosod cledrau a chynnal a chadw yn uchel ar restr gweithgareddau Cymdeithas Rheilffordd Eryri.

Tra bod gan Cwmni Rheiffordd Ucheldir Cymru staff ei hun sy’n gweithio ar y cledrau, cynnal a chadw dyddiol sydd yn cyfrif am y mwyafrif o’u dyletswyddau er mwyn sicrhau bod y trenau’n rhedeg yn unol â’r amserlen a gyhoeddir. Yn sgil hyn, mae’r gweithwyr yma yn dibynnu’n fawr ar y criwiau cledrau gwirfoddol i’w cynorthwyo, yn enwedig pan fydd angen cwblhau tasgau neu brosiectau penodol.

Ond yn gyntaf, roedd yn rhaid cael rheilffordd i’w chynnal a’i chadw. Talwyd am y rheilffordd gan gronfeydd fel Cronfa’r Mileniwm (Caernarfon - Rhyd Ddu) a Chronfa’r Cynulliad (Rhyd Ddu - Porthmadog, ond roedd y mwyafrif o’r arian yma yn talu am y gwaith peirianneg sifil yn unig. Gosodwyd y rheilffordd ei hun, yn fwy penodol - y cledrau, yn bennaf gan wirfoddolwyr a gosodwyd y rhan o Ryd Ddu i’r groesfan gyda’r rheilffordd lled gyffredin ‘Network Rail’ ym Mhorthmadog yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Cymdeithas Rheilffordd Eryri a arweiniodd yr ymdrech yma.

Sefydlwyd dau o griwiau’r cledrau gyda’r bwriad o osod y cledrau. Sefydlwyd Criw'r Black Hand oddeutu 1997 ac roedd yn cynnwys pobl leol yn y mwyafrif. Mae Criw Gweddill y Byd yn dod o’r pedwar ban, a’u swyddogaeth hwy oedd cynnal yr ymdrech ychwanegol oedd ei hangen i gwblhau’r rhan o Ryd Ddu i Borthmadog. Ble bynnag mae’ch cartref, mae croeso i chi ymuno ag unrhyw un o’r grwpiau.  

Os dach chi’n newydd i Reilffordd Ucheldir Cymru, yna edrychwch ar wefan Prosiect Reilffordd Ucheldir Cymru (cyswllt ar y chwith) i weld y cyfraniad aruthrol mae’r criwiau cledrau gwirfoddol yn ei wneud i ail-adeiladu’r rheilffordd, yn arbennig Rhan 4.




© Webmaster yw’r holl gynnwys neu fel y dangosir - Diweddarwyd y dudalen yma mis Mawrth 2010 gan David Tidy