whrs logo
Cymdeithas Rheilffordd Eryri
Welsh Highland Railway Society

Prosiectau'r Gyndeithas

Restored wagon at Dinas



Y Prosiect:

Pwrpas y prosiect yw helpu cynnal y stoc bresennol o wagenni a cherbydau sydd ddim yn cludo teithwyr.

Yn ogystal, gobeithir adfer cerbydau sydd ddim mewn gwasanaeth ar hyn o bryd.
Gwelir manylion am ymarferion adfer cerbydau yn y gorffennol yma:

Cofrestr Wagenni

Coeliwch neu beidio, mae gan y rheilffordd 30 o wagenni erbyn hyn, rhai mewn gwasanaeth, rhai ddim.
Yn ddiweddar, mae rheolwr y rheilffordd wedi bod yn bryderus am y llwyth gwaith cynnal a chadw sy’n bodoli ar y cerbydau hyn.
Y prif reswm am hyn yw bod y staff a gwirfoddolwyr wedi bod yn ymwneud â blaenoriaethau eraill yn gysylltiedig ag ymestyn y rheilffordd ei hun. Mae Marcus Ingram, sydd yn gyfrifol am y mwyafrif o’r gwaith adfer ar y wagenni, wedi newid ei swydd - sefyllfa sy’n golygu na fedr ymweld â’r rheilffordd mor aml ag yn y gorffennol.
O ganlyniad, datblygwyd cynllun i ffurfio tîm o wirfoddolwyr i weithio’n benodol ar y gwaith sylfaenol sydd ei angen ar ein fflyd o wagenni. Bwriadwn alw’r tîm yma yn ‘WAGONS ROLL’ (Rholio’r Wagenni!).
Yn fuan, bydd Marcus a minnau’n cyhoeddi dyddiadau cyfarfod y grwpiau gwaith – a gynhelir yn Dinas – a byddwn yn croesawu cymorth gan unrhyw aelodau. Yn naturiol, os dach chi’n meddu ar sgiliau peirianneg, bydd hyn yn fonws, ond estynnir croeso cynnes i UNRHYW UN sy’n awyddus i faeddu. Mewn cyfnod o amser, yn sicr, ein bwriad yw gofyn i’r Cwmni ddarparu hyfforddiant lle y cydnabyddir angen. Os gwn i a wnawn ni glywed y term "Wagon Train" yn cael ei fathu?
Dyddiadau Grwpiau Gwaith
Y Gwaith cyntaf ar gyfer Grŵp y Wagenni fydd Dydd Sul, Ebrill 11eg. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu petaech yn hoffi gwybod am ddyddiadau eraill fel y byddant yn cael eu trefnu, yna dangoswch eich diddordeb trwy fy ffonio.
 
Keith Holland
01462 816435




© Webmaster yw’r holl gynnwys neu fel y dangosir - Diweddarwyd y dudalen yma mis Mawrth 2010 gan David Tidy