Llun: Ben Fisher
|
![]() |
|
Y Prosiect: Paratoi dwy gysgodfa, gan gynnwys toiled i deithwyr anabl, swyddfa weithredol fechan i griwiau’r trenau a swyddfa docynnau i werthu tocynnau pan fydd staff yn yr orsaf. |
Gorsaf WaunfawrAgorwyd gorsaf Waunfawr yn 2001. Nid oedd cyfleusterau ar y pryd ar wahân i lwyfan cyffredin a phont troed. Mae’n bleser cael cyhoeddi fod ymddangosiad yr orsaf wedi gwella dros y blynyddoedd trwy ymdrechion ymroddedig y tîm garddio gyda gwelyau blodau lliwgar. Fodd bynnag, nid oedd cysgod ar gael i deithwyr na chriwiau’r trenau wrth iddynt gyfnewid tocynnau haearn. Gydag
ymestyniad y rheilffordd i Feddgelert a thu hwnt, mae’r orsaf,
erbyn hyn, yn fan cychwyn poblogaidd i deithwyr sydd angen siwrnai
fyrrach yn hytrach na thaith gyflawn. Felly, mae’r orsaf yn gallu
bod yn brysur dros ben. Mae’r Cwmni wedi bod yn ymwybodol o’r
diffyg ers tro ond anelwyd yr adnoddau a’r ymdrechion at gwblhau’r
lein i Borthmadog. Yn unol â’r polisi o gyflenwi cyfleusterau
gwell i deithwyr, mae’r Gymdeithas wedi cychwyn ar y prosiect yma
gyda rhoddion hael gan aelodau. Mae’r Gymdeithas yn trefnu i
adeiladu cysgodfeydd yn Waun Fawr, cysgodfeydd tebyg i’r rhai mewn
gorsafoedd eraill fel Rhyd Ddu a Nantmor. Yn y tymor hir, rhagwelir
adeilad mwy sefydlog, ond yn y cyfamser, bydd y cysgodfeydd yma’n
cyflawni pwrpas sydd wir ei hangen.
-oOo-
Cychwynnwyd ar y gwaith dros y penwythnos, Awst 13eg – 15fed 2010. Dyma adroddiad Dafydd Thomas:
Dros
y penwythnos, gan gynnwys Dydd Gwener, Awst 13eg, cychwynnodd Gang y
Llaw Ddu, Gogledd Cymru (North Wales Black Hand Gang) ar y gwaith
paratoadol ar gyfer cysgodfeydd llwyfan Gorsaf Waun Fawr. Y dasg
gyntaf Dydd Gwener oedd clirio ffordd i mewn i iard Waun Fawr; mae’n
syndod faint o dyfiant planhigion sy’n digwydd mewn blwyddyn. Yn
dilyn hyn, roedd rhaid lleoli pen traen carthffosiaeth o dan y
llwyfan. Roedd y gorchudd o darmac yn galed dros ben, yn ddigon da
i’r M1 fe dybiwn!
O’r
diwedd, gwelwyd cwblhad y draen carthffosiaeth ar y Dydd Sul. Mae’r
draen yma ei hangen i’r toiled sy’n rhan o gysgodfa ar y llwyfan
i lawr (down platform). Dechreuwyd hefyd ar fframweithiau pren y
cysgodfeydd ynghyd â thyllu ffosydd i bibelli gwasanaeth trydan, dŵr
a chyfathrebiadau. |