whrs logo
Cymdeithas Rheilffordd Eryri

Welsh Highland Railway Society
WHR



Cliciwch isod i edrych ar Wefan Prosiect Ben Fisher am Reilffordd yr Ucheldir 


Darllenwch fwy am Ben yma:

Gweler Llith goffa Ben yn Rhifyn 66 o’r ‘Snowdon Ranger’

ac yn y

'Guardian'

Gweithiai Ben ym Mhrifysgol Bangor, a thalwyd teyrnged iddo yng nghylchgrawn yr Haf o’r Bangoriad. © ailgynhyrchwyd gyda chaniatâd Prifysgol Bangor

Yn ogystal, fe welir teyrnged ymestynnol iddo yn adran Alumni gwefan y Brifysgol.

Gwefan Prosiect Rheilffordd Ucheldir Cymru 

Mae Prosiect Rheilffordd Ucheldir Cymru yn deitl sy’n gyfarwydd i rywun gyda diddordeb yn y rheilffordd. Rhoddwyd yr enw yma i wefan a sefydlwyd gan y diweddar Dr Ben Fisher, gyda’r bwriad o ddilyn ail-adeiladu Rheilffordd Ucheldir Cymru. Datblygodd i fod yn wefan ‘swyddogol’ lle y darparwyd newyddion, gwybodaeth a hysbysiadau’n gysylltiedig â’r ail-adeiladu.

Cofnodwyd pob agwedd o ail-adeiladu dyddiol y rheilffordd ar y wefan yma, i’r graddau ei fod erbyn hyn yn gofnod hanesyddol sylweddol. Yn ogystal, cofnodwyd yr holl ddigwyddiadau, pob gala ac achlysuron dathlu yn ystod blynyddoedd yr ail-adeiladu.  

Diweddarwyd y wefan yn rheolaidd gan Ben nes ei farwolaeth sydyn, anamserol ym mis Awst 2009. Yn dilyn ei farwolaeth, teimlai ei deulu na ddylai’r cofnod yma gael ei golli ac y dylai dilynwyr byd-eang gael ei weld. Gallai hyn fod wedi digwydd yn hawdd, gan mai Prifysgol Bangor, lle y gweithiai Ben, oedd gwestai’r wefan. Er mwyn sicrhau ei oroesiad, fe’i cynigiwyd i Gymdeithas Rheilffordd Eryri i fod yn rhan o’u gwefan newydd lle y gellir parhau i ddiweddaru stori’r ail-adeiladu. 

Mae meistri gwefan Cymdeithas Rheilffordd Eryri yn teimlo ei bod yn glod i warchod cyfnod mor wych a byddant yn gwneud eu gorau i ddiweddaru’r safle gan efelychu arddull a dull enwi Ben lle mae’n bosib. Cwestiwn arall ydyw a fedrwn ni gystadlu â huodledd Ben?  

Roedd Ben yn ffortunus o fod yn byw yn agos i’r rheilffordd, ac roedd ei waith yn ddigon hyblyg i ganiatáu iddo fedru teithio’n rheolaidd i diriogaeth Rheilffordd Ucheldir Cymru i gofnodi popeth a ddigwyddai. Roedd ganddo hefyd glwb cefnogwyr selog, oedd yn hynod o frwdfrydig wrth ganiatáu iddo arddangos eu ffotograffau ochr yn ochr â’i ffotograffau ei hun. Yn wir, ar adegau roedd Ben yn hapus i ddefnyddio ffotograffau pobl eraill os oedd yn teimlo nad oedd ei luniau ef i fyny a’r safon. 

Ar y llaw arall nid yw David a Laurence yn byw yn lleol, gan fyw rhai oriau i ffwrdd. Bydd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar glwb cefnogwyr Ben am ffotograffau a’r newyddion diweddaraf. Byddwn yn hynod o falch o dderbyn ffotograffau i gwblhau cofnod mae Ben wedi’i gychwyn mewn dull mor rhagorol. Fodd bynnag, buasem yn hoffi i chwi wybod mai ein prif ymdrech fydd parhau gyda’i waith, ond y byddwn yn diweddaru’r wefan yn wythnosol yn hytrach na’n ddyddiol fel y byddai Ben yn ei gyflawni ar adegau. Felly y bydd, os na fydd gwybodaeth chwilboeth yn ein cyrraedd a bydd angen ei ddiweddaru’n union ar y wefan. Fe wnawn ein gorau i efelychu a chynnal dehongliad diymdroi Ben o’r wybodaeth.    

David Tidy a Laurence Armstrong

Os dach chi eisiau rhannu eich ffotograffau gydag eraill trwy wefan Prosiect Rheilffordd Ucheldir Cymru, sef gwefan Ben, neu wefan Cymdeithas Rheilffordd Eryri, yna defnyddiwch y cyfeiriad gwefan ganlynol ogydd:



whrsoc@googlemail.com

Mae Cymdeithas Rheilffordd Eryri yn Elusen Gofrestredig, Rhif: 1094938


 © webmaster yw’r holl gynnwys neu fel y dangosir  - Diweddarwyd y dudalen yma mis Chwefror 2010 gan David Tidy